beibl.net 2015

Jeremeia 10:7-19 beibl.net 2015 (BNET)

7. Ti ydy Brenin y cenhedloedd,felly dylai pawb dy addoli di –dyna wyt ti'n ei haeddu!Dydy pobl fwya doeth y gwledydd i gyda'r teyrnasoedd ddim byd tebyg i ti.

8. Pobl wyllt a dwl ydyn nhw,yn meddwl y gall eilun pren eu dysgu nhw!

9. Maen nhw'n dod ag arian wedi ei guro o Tarshish,ac aur pur o Wffas, i orchuddio'r delwau.Dim ond gwaith llaw cerfiwr a gof aur ydy'r rheiny;a'u dillad glas a phorffor yn waith teiliwr medrus!

10. Yr ARGLWYDD ydy'r unig Dduw go iawn –y Duw byw, sy'n frenin am byth!Pan mae e'n ddig mae'r ddaear yn crynu.Mae'r cenhedloedd yn cuddio oddi wrth ei ddicter.”

11. (Dylech ddweud wrth y cenhedloedd: “Wnaeth y ‛duwiau‛ yma ddim creu y nefoedd a'r ddaear. Byddan nhw i gyd yn diflannu – fydd dim sôn amdanyn nhw yn unman!”)

12. Yr ARGLWYDD ddefnyddiodd ei rym i greu y ddaear.Fe ydy'r un osododd y byd yn ei le trwy ei ddoethineb,a lledu'r awyr trwy ei ddeall.

13. Mae sŵn ei lais yn gwneud i'r awyr daranu.Mae'n gwneud i gymylau ddod i'r golwg ar y gorwel.Mae'n gwneud i fellt fflachio yng nghanol y glaw.Mae'n dod â'r gwynt allan o'i stordai i chwythu.

14. Mae pobl mor ddwl! Dŷn nhw'n gwybod dim byd!Bydd yr eilunod yn codi cywilydd ar y rhai a'i gwnaeth nhw.Duwiau ffals ydy'r delwau;does dim bywyd ynddyn nhw.

15. Dŷn nhw'n dda i ddim! Pethau i wneud sbort ohonyn nhw!Mae'r amser yn dod pan gân nhw eu cosbi a'u dinistrio.

16. Dydy Duw Jacob ddim byd tebyg iddyn nhw.Fe ydy'r un wnaeth greu pob peth,ac mae pobl Israel yn bobl sbesial iddo.Yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw!

17. Mae'r gelyn o'ch cwmpas yn gwarchae,felly heliwch eich pac yn barod i fynd!

18. Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:Dw i'n mynd i daflu'r bobl allan o'r wlad yma, nawr!Maen nhw'n mynd i fod mewn helbul go iawn,a byddan nhw'n teimlo'r peth i'r byw.

19. Meddai Jerwsalem, “Mae ar ben arna i!Dw i wedi fy anafu'n ddifrifol.Roeddwn i'n arfer meddwl, ‘Salwch ydy ea bydda i'n dod drosto.’