beibl.net 2015

Jeremeia 10:20-24 beibl.net 2015 (BNET)

20. Mae fy mhabell wedi ei dryllio,a'r rhaffau i gyd wedi eu torri.Mae fy mhlant wedi mynd,a fyddan nhw ddim yn dod yn ôl.Does neb ar ôl i godi'r babell eto,nac i hongian y llenni tu mewn iddi.

21. Mae'r arweinwyr wedi bod mor ddwl!Dŷn nhw ddim wedi gofyn i'r ARGLWYDD am arweiniad.Maen nhw wedi methu'n llwyr,ac mae eu praidd nhw wedi eu gyrru ar chwâl.

22. Gwrandwch! Mae'r si ar led! Mae'n dod!Sŵn twrw'r fyddin yn dod o gyfeiriad y gogledd.Mae'n dod i droi trefi Jwda yn rwbel,ac yn lle i siacaliaid fyw.

23. ARGLWYDD, dw i'n gwybod na all pobl reoli eu bywydau.Dŷn nhw ddim yn gallu trefnu beth sy'n mynd i ddigwydd.

24. Felly, ARGLWYDD, cywira ni, ond paid bod yn rhy galed.Paid gwylltio, neu bydd dim ohonon ni ar ôl.