beibl.net 2015

Iago 1:13-26 beibl.net 2015 (BNET)

13. A ddylai neb ddweud pan mae'n cael ei brofi, “Duw sy'n fy nhemtio i.” Dydy Duw ddim yn cael ei demtio gan ddrygioni, a dydy e ddim yn temtio neb arall chwaith.

14. Eu chwantau drwg eu hunain sy'n temtio pobl, ac yn eu llusgo nhw ar ôl iddyn nhw gymryd yr abwyd.

15. Mae chwantau drwg yn arwain i weithredoedd drwg, a'r gweithredoedd drwg hynny yn arwain i farwolaeth ysbrydol.

16. Peidiwch cymryd eich camarwain, frodyr a chwiorydd annwyl.

17. Mae pob rhoi, a phob haelioni yn dod oddi wrth Dduw yn y nefoedd uchod. Fe ydy'r Tad a greodd y sêr a'r planedau, ond dydy ei oleuni e ddim yn amrywio, a dydy e byth yn taflu cysgodion tywyll.

18. Mae Duw wedi dewis rhoi bywyd newydd i ni, drwy wirionedd ei neges. Mae wedi'n dewis ni'n arbennig iddo'i hun o blith y cwbl mae wedi ei greu.

19. Gallwch fod yn hollol siŵr o'r peth, frodyr a chwiorydd.Dylai pob un ohonoch fod yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll, a gwybod sut i reoli ei dymer.

20. Dydy gwylltio ddim yn eich helpu chi i wneud beth sy'n iawn yng ngolwg Duw.

21. Felly rhaid cael gwared â phob budreddi a'r holl ddrygioni sy'n rhemp, a derbyn yn wylaidd y neges mae Duw wedi ei phlannu yn eich calonnau chi – dyna'r neges sy'n eich achub chi.

22. Gwnewch beth mae Duw'n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn. Twyllo'ch hunain ydy peth felly!

23. Mae rhywun sy'n clywed ond ddim yn gwneud yn debyg i ddyn yn edrych mewn drych.

24. Mae'n edrych arno'i hun, ac wedyn yn mynd i ffwrdd, ac yn anghofio sut olwg oedd arno!

25. Ond mae'r un sy'n dal ati i edrych yn fanwl ar ddysgeidiaeth berffaith y Duw sy'n ein gollwng ni'n rhydd yn wahanol. Dydy'r sawl sy'n gwneud hynny ddim yn anghofio beth mae wedi ei glywed; mae'n gwneud beth sydd ei angen. A bydd Duw yn bendithio popeth mae'n ei wneud!

26. Os ydy rhywun yn meddwl ei fod yn dduwiol ond ddim yn gallu rheoli ei dafod, mae'n twyllo'i hun – dydy crefydd rhywun felly yn dda i ddim.