beibl.net 2015

Hebreaid 3:5-12 beibl.net 2015 (BNET)

5. Gwas “ffyddlon yn nheulu Duw” oedd Moses, ac roedd beth wnaeth e yn pwyntio ymlaen at beth fyddai Duw'n ei wneud yn y dyfodol.

6. Ond mae'r Meseia yn Fab ffyddlon gydag awdurdod dros deulu Duw i gyd. A dŷn ni'n bobl sy'n perthyn i'r teulu hwnnw os wnawn ni ddal gafael yn yr hyder a'r gobaith dŷn ni'n ei frolio.

7. Felly, fel mae'r Ysbryd Glân yn dweud: “Os clywch chi lais Duw heddiw,

8. peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel, yn rhoi Duw ar brawf yn yr anialwch.

9. Roedd eich hynafiaid wedi profi fy amynedd a chawson nhw weld y canlyniadau am bedwar deg mlynedd.

10. Digiais gyda'r bobl hynny, a dweud, ‘Maen nhw'n bobl hollol anwadal; dŷn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’

11. Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.’”

12. Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn anufudd ac yn troi cefn ar y Duw byw.