11. Mae'r un sy'n glanhau pobl, a'r rhai sy'n cael eu glanhau yn perthyn i'r un teulu dynol. Felly does gan Iesu ddim cywilydd galw'r bobl hynny yn frodyr a chwiorydd.
12. Mae'n dweud: “Bydda i'n dweud wrth fy mrodyr a'm chwiorydd pwy wyt ti; ac yn canu mawl i ti gyda'r rhai sy'n dy addoli.”
13. Ac wedyn, “Dw i'n mynd i drystio Duw hefyd.” Ac eto, “Dyma fi, a'r plant mae Duw wedi eu rhoi i mi.”
14. Gan ein bod ni'r “plant” yn bobl o gig a gwaed, daeth Iesu'n berson o gig a gwaed yn union yr un fath. Dyna sut roedd yn gallu marw i ddwyn y grym oddi ar yr un sy'n dal grym marwolaeth – hynny ydy, y diafol.
15. Mae Iesu wedi gollwng pobl yn rhydd fel bod dim rhaid iddyn nhw ofni marw bellach.
16. Pobl sy'n blant i Abraham mae Iesu'n eu helpu, nid angylion!
17. Felly roedd rhaid i Iesu gael ei wneud yn union yr un fath â ni, ei “frodyr a'i chwiorydd.” Dim ond wedyn y gallai fod yn archoffeiriad trugarog a ffyddlon yn gwasanaethu Duw, ac yn cyflwyno aberth fyddai'n delio gyda phechodau pobl a dod â nhw i berthynas iawn gyda Duw.
18. Am ei fod e'i hun wedi dioddef ac wedi cael ei demtio, mae'n gallu'n helpu ni pan fyddwn ni'n wynebu temtasiwn.