beibl.net 2015

Hebreaid 13:19-25 beibl.net 2015 (BNET)

19. Dw i'n arbennig eisiau i chi weddïo y ca i ddod yn ôl i'ch gweld chi'n fuan.

20-21. Dw i'n gweddïo y bydd Duw, sy'n rhoi heddwch perffaith i ni, yn eich galluogi chi i wneud beth mae e eisiau. Fe ydy'r Duw gododd ein Harglwydd Iesu yn ôl yn fyw, sef Bugail mawr y defaid. Trwy farw'n aberth, seliodd yr ymrwymiad tragwyddol a wnaeth Duw. Dw i'n gweddïo y bydd Duw, trwy'r Meseia Iesu, yn eich galluogi chi i wneud beth sy'n ei blesio fe. Mae'n haeddu ei foli am byth! Amen!

22. Ffrindiau annwyl, dw i'n pwyso arnoch chi i dderbyn beth dw i wedi ei ddweud. Dw i wedi bod mor gryno ac y galla i.

23. Dw i am i chi wybod fod ein brawd Timotheus wedi cael ei ryddhau o garchar. Os daw yma'n fuan bydda i'n dod ag e gyda mi i'ch gweld chi.

24. Cofion at eich arweinwyr chi i gyd! – ac at bob un o'r credinwyr sydd acw. Mae Cristnogion yr Eidal yn anfon eu cyfarchion atoch chi.

25. Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw.