beibl.net 2015

Hebreaid 11:32-40 beibl.net 2015 (BNET)

32. Beth arall sydd raid i mi ei ddweud? Does gen i ddim amser i sôn am Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd, Samuel a'r holl broffwydi.

33. Eu ffydd wnaeth alluogi'r bobl hyn i wneud pob math o bethau – concro teyrnasoedd, llywodraethu'n gyfiawn, a derbyn y bendithion roedd Duw wedi eu haddo. Cafodd llewod eu rhwystro rhag lladd pobl,

34. tanau gwyllt eu rhwystro rhag llosgi pobl, a llwyddodd eraill i ddianc rhag cael eu lladd gan y cleddyf. Cafodd y rhai oedd yn wan eu gwneud yn gryf, a throi'n filwyr nerthol yn gwneud i fyddinoedd gwledydd eraill ffoi.

35. Cafodd rhai gwragedd eu hanwyliaid yn ôl yn fyw ar ôl iddyn nhw farw. Ond cafodd eraill eu poenydio a gwrthod cyfaddawdu i osgoi marw. Roedden nhw'n edrych ymlaen at gael eu codi yn ôl i fywyd gwell!

36. Cafodd rhai eu sarhau a'u fflangellu, eraill eu rhoi mewn cadwyni a'u carcharu.

37. Cafodd rhai eu llabyddio gyda cherrig, ac eraill eu llifio yn eu hanner; a chafodd eraill eu lladd â chleddyf. Buodd rhai yn crwydro fel ffoaduriaid heb ddim ond crwyn defaid a geifr yn ddillad; wedi colli'r cwbl, ac yn cael eu herlid a'u cam-drin.

38. Pobl oedd y byd ddim yn eu haeddu nhw. Roedden nhw'n crwydro dros dir anial a mynydd-dir, ac yn cuddio mewn ogofâu a thyllau yn y ddaear.

39. Cafodd y bobl yma i gyd eu canmol am eu ffydd, ac eto wnaeth dim un ohonyn nhw dderbyn y cwbl roedd Duw wedi ei addo.

40. Roedd Duw wedi cynllunio rhywbeth gwell iddyn nhw – rhywbeth dŷn ni'n rhan ohono. Felly dŷn nhw ddim ond yn gallu cael y wobr lawn gyda ni.