beibl.net 2015

Hebreaid 11:12-24 beibl.net 2015 (BNET)

12. Felly, o'r un oedd yn rhy hen i gael plant, cafodd Abraham gymaint o ddisgynyddion mae'n amhosib eu cyfri i gyd – maen nhw fel y sêr yn yr awyr neu'r tywod ar lan y môr!

13. Buodd y bobl hyn farw, wedi credu yn Nuw ond heb dderbyn yn llawn beth roedd Duw wedi ei addo iddyn nhw. Ond roedden nhw yn gweld y cwbl o bell, ac yn edrych ymlaen yn frwd. Roedden nhw'n dweud yn agored maipobl ddieithr yn crwydro'r tir oedden nhw,

14. ac mae'n amlwg fod pobl sy'n siarad felly yn edrych am eu mamwlad.

15. A dim y wlad roedden nhw wedi ei gadael oedd ganddyn nhw mewn golwg, achos gallen nhw fod wedi mynd yn ôl yno.

16. Na, roedden nhw'n dyheu am rywle gwell – am wlad nefol. Dyna pam fod gan Dduw ddim cywilydd cael ei alw'n Dduw iddyn nhw, am fod ganddo ddinas yn barod ar eu cyfer nhw.

17. Ffydd wnaeth i Abraham offrymu Isaac yn aberth, pan oedd Duw yn ei brofi. Dyma'r un oedd wedi derbyn addewidion Duw, yn ceisio aberthu ei unig fab!

18. A hynny er bod Duw wedi dweud wrtho, “Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw.”

19. Roedd Abraham yn derbyn fod Duw yn gallu dod â'r meirw yn ôl yn fyw. Ac mewn ffordd mae'n iawn i ddweud ei fod wedi derbyn Isaac yn ôl felly.

20. Ffydd Isaac wnaeth iddo fendithio Jacob ac Esau. Roedd ganddo ffydd yn beth roedd Duw'n mynd i'w wneud yn y dyfodol.

21. Ffydd wnaeth i Jacob fendithio plant Joseff pan oedd ar fin marw. “Addolodd Dduw wrth bwyso ar ei ffon.”

22. A phan roedd Joseff ar fin marw, ei ffydd wnaeth iddo yntau sôn am bobl Israel yn gadael yr Aifft. Dwedodd wrthyn nhw hefyd ble i gladdu ei esgyrn.

23. Eu ffydd wnaeth i rieni Moses ei guddio am dri mis ar ôl iddo gael ei eni. Roedden nhw'n gweld fod rhywbeth sbesial am y plentyn, a doedd ganddyn nhw ddim ofn beth fyddai'r brenin yn ei wneud.

24. Ffydd wnaeth i Moses, ar ôl iddo dyfu, wrthod cael ei drin fel mab i ferch y Pharo.