1. Yn y gorffennol pell roedd Duw wedi siarad gyda'n hynafiaid ni drwy'r proffwydi. Gwnaeth hyn bob yn dipyn ac mewn gwahanol ffyrdd.
2. Ond bellach, yn y cyfnod olaf hwn, mae wedi siarad â ni drwy ei Fab. Mae Duw wedi dewis rhoi popeth sy'n bodoli yn eiddo iddo fe – yr un oedd gyda Duw yn gwneud y bydysawd.
3. Mae holl ysblander Duw yn disgleirio ohono. Mae e'n dangos i ni'n berffaith sut un ydy Duw. Ei awdurdod pwerus e sy'n dal popeth yn y bydysawd gyda'i gilydd! Ar ôl iddo ei gwneud hi'n bosib i bobl gael eu glanhau o'u pechodau, cafodd eistedd yn y nefoedd, yn y sedd anrhydedd ar ochr dde y Duw Mawr ei hun.
4. Roedd wedi ei wneud yn bwysicach na'r angylion. Roedd y teitl roddodd Duw iddo yn dangos ei fod yn bwysicach na nhw.
5. Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed: “Ti ydy fy Mab i; heddiw des i yn dad i ti” ?Neu hyn: “Bydda i'n dad iddo fe, A bydd e'n fab i mi” ?
6. Ac wrth i Dduw ddod â'i fab hynaf yn ôl i'r byd nefol i'w anrhydeddu, mae'n dweud: “Addolwch e, holl angylion Duw!”
7. Pan mae Duw'n sôn am angylion mae'n eu disgrifio fel: “negeswyr sydd fel gwyntoedd, a gweision sydd fel fflamau o dân.”
8. Ond am y Mab mae Duw'n dweud hyn: “Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth, a byddi'n teyrnasu mewn ffordd gyfiawn.
9. Rwyt yn caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni; felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio di, a thywallt olew llawenydd arnat ti fwy na neb arall.”
10. A hefyd, “O Arglwydd, ti osododd y ddaear yn ei lle ar y dechrau cyntaf, a gwaith dy ddwylo di ydy popeth yn yr awyr.
11. Byddan nhw'n darfod, ond rwyt ti'n aros; byddan nhw'n mynd yn hen fel dillad wedi eu gwisgo.
12. Byddi'n eu rholio i fyny fel hen glogyn; byddi'n eu newid nhw fel rhywun yn newid dillad. Ond rwyt ti yn aros am byth – dwyt ti byth yn mynd yn hen.”
13. Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed?: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”