8. Wedyn dyma Noa yn anfon colomen allan, i weld os oedd y dŵr wedi mynd.
9. Ond roedd y golomen yn methu dod o hyd i le i glwydo, a daeth yn ôl i'r arch. Roedd y dŵr yn dal i orchuddio'r ddaear. Estynnodd Noa ei law ati a dod â hi yn ôl i mewn i'r arch.
10. Arhosodd am wythnos cyn danfon y golomen allan eto.
11. Y tro yma, pan oedd hi'n dechrau nosi, dyma'r golomen yn dod yn ôl gyda deilen olewydd ffres yn ei phig. Felly roedd Noa'n gwybod bod y dŵr bron wedi mynd.
12. Arhosodd am wythnos arall ac anfon y golomen allan eto, a'r tro yma ddaeth hi ddim yn ôl.
13. Pan oedd Noa yn 601 oed, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn roedd y llifogydd wedi mynd. Dyma Noa yn symud rhan o'r gorchudd ar do'r arch a gwelodd fod y ddaear bron wedi sychu.
14. Erbyn y seithfed ar hugain o'r ail fis roedd y ddaear yn sych.
15. A dyma Duw yn dweud wrth Noa,
16. “Dos allan o'r arch, ti a dy deulu.
17. Tyrd â phopeth allan – yr adar a'r anifeiliaid, a phob creadur bach arall – dw i eisiau iddyn nhw gael llawer iawn o rai bach, drwy'r ddaear i gyd.”
18. Felly dyma Noa a'i wraig, a'i feibion a'u gwragedd nhw, yn mynd allan o'r arch.
19. A dyma'r anifeiliaid i gyd, a'r ymlusgiaid, a'r adar yn dod allan yn eu grwpiau.
20. A dyma Noa'n codi allor i'r ARGLWYDD ac yn aberthu rhai o'r gwahanol fathau o anifeiliaid ac adar oedd yn dderbyniol fel aberth i'w losgi.
21. Roedd yr aberth yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, ac meddai wrtho'i hun, “Dw i byth yn mynd i felltithio'r ddaear eto o achos y ddynoliaeth, er fod pobl yn dal i feddwl am ddim byd ond gwneud drwg hyd yn oed pan maen nhw'n blant ifanc. Wna i byth eto ddinistrio popeth byw fel dw i newydd wneud.
22. Tra mae'r byd yn bod,bydd amser i blannu a chasglu'r cynhaeaf;bydd tywydd oer a thywydd poeth,haf a gaeaf, nos a dydd.”