beibl.net 2015

Genesis 6:14-22 beibl.net 2015 (BNET)

14. Dw i am i ti adeiladu arch, sef cwch mawr, wedi ei gwneud o goed goffer. Rhanna hi yn ystafelloedd a'i selio hi y tu mewn a'r tu allan â pyg.

15. Gwna hi'n 130 metr o hyd, 22 metr o led ac 13 metr o uchder.

16. Rho do ar yr arch, ond gad fwlch o 45 centimetr rhwng y to ac ochrau'r arch. Rho ddrws ar ochr yr arch, a thri llawr ynddi – yr isaf, y canol a'r uchaf.

17. Dw i'n mynd i ddod â llifogydd ar y ddaear fydd yn boddi popeth sy'n anadlu. Bydd popeth byw yn marw.

18. Ond bydda i'n gwneud ymrwymiad i ti. Byddi di'n mynd i mewn i'r arch – ti a dy feibion, dy wraig a'u gwragedd nhw.

19. “Dw i am i ti fynd â dau o bob math o anifail i mewn i'r arch hefo ti i'w cadw'n fyw, sef un gwryw ac un benyw.

20. Pob math o adar, pob math o anifeiliaid, pob math o ymlusgiaid – bydd dau o bopeth yn dod atat ti i'w cadw'n fyw.

21. Dos â phob math o fwyd gyda ti hefyd, a'i storio. Digon o fwyd i chi ac i'r anifeiliaid.”

22. A dyma Noa yn gwneud yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.