beibl.net 2015

Genesis 50:4-11 beibl.net 2015 (BNET)

4. Pan oedd y cyfnod o alar drosodd, dyma Joseff yn mynd at gynghorwyr y Pharo, a dweud: “Mae gen i ffafr i'w gofyn gan y Pharo. Wnewch chi ofyn iddo ar fy rhan i, plîs?

5. Gwnaeth fy nhad i mi addo rhywbeth iddo ar lw. Dyma ddwedodd e: ‘Dw i ar fin marw, a dw i eisiau i ti fy nghladdu i yn y bedd dw i wedi ei dorri i mi fy hun yng ngwlad Canaan.’ Felly gofyn ydw i am ganiatâd i fynd yno i gladdu dad. Bydda i'n dod yn ôl yma wedyn.”

6. Dyma'r Pharo'n dweud, “Dos i gladdu dy dad, fel gwnest ti addo iddo.”

7. Felly dyma Joseff yn mynd i gladdu ei dad. Aeth swyddogion y Pharo i gyd gydag e, a phobl bwysig y llys ac arweinwyr y wlad.

8. Teulu Joseff i gyd, ei frodyr, a theulu ei dad hefyd. Dim ond y plant bach a'r anifeiliaid gafodd eu gadael yn ardal Gosen.

9. Roedd cerbydau rhyfel a marchogion gyda nhw hefyd – tyrfa fawr iawn o bobl.

10. Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Atad (i'r dwyrain o Afon Iorddonen) dyma nhw'n cynnal cyfnod o alar angladdol. Buodd Joseff yn galaru yno am ei dad am wythnos.

11. Pan welodd pobl Canaan nhw yn galaru ar lawr dyrnu Atad, dyma nhw'n dweud, “Mae'r angladd yma'n ddigwyddiad trist iawn yng ngolwg yr Eifftiaid.” Felly cafodd y lle, sydd yr ochr draw i Afon Iorddonen, ei alw yn Abel-misraim.