beibl.net 2015

Genesis 5:7-18 beibl.net 2015 (BNET)

7. Buodd Seth fyw am 807 o flynyddoedd ar ôl i Enosh gael ei eni, a chafodd blant eraill.

8. Felly roedd Seth yn 912 oed yn marw.

9. Pan oedd Enosh yn 90 oed cafodd ei fab Cenan ei eni.

10. Buodd Enosh fyw am 815 mlynedd ar ôl i Cenan gael ei eni, a chafodd blant eraill.

11. Felly roedd Enosh yn 905 oed yn marw.

12. Pan oedd Cenan yn 70 oed, cafodd ei fab Mahalal-el ei eni.

13. Buodd Cenan fyw am 840 mlynedd ar ôl i Mahalal-el gael ei eni, a chafodd blant eraill.

14. Felly roedd Cenan yn 910 oed yn marw.

15. Pan oedd Mahalal-el yn 65 oed cafodd ei fab Iered ei eni.

16. Buodd Mahalal-el fyw am 830 mlynedd ar ôl i Iered gael ei eni, a chafodd blant eraill.

17. Felly roedd Mahalal-el yn 895 oed yn marw.

18. Pan oedd Iered yn 162 oed cafodd ei fab Enoch ei eni.