beibl.net 2015

Genesis 5:21-24 beibl.net 2015 (BNET)

21. Pan oedd Enoch yn 65 oed cafodd ei fab Methwsela ei eni.

22. Roedd gan Enoch berthynas agos gyda Duw, a buodd fyw am 300 mlynedd ar ôl i Methwsela gael ei eni, a chafodd blant eraill.

23. Felly dyma Enoch yn byw i fod yn 365 oed.

24. Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw, ond yn sydyn doedd e ddim yna. Roedd Duw wedi ei gymryd i ffwrdd.