beibl.net 2015

Genesis 49:11-29 beibl.net 2015 (BNET)

11. Bydd yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden,a'i asen ifanc wrth y winwydden orau.Bydd yn golchi ei ddillad mewn gwina'i fantell yng ngwaed y grawnwin.

12. Mae ei lygaid yn gochion gan win,a'i ddannedd yn wynion fel llaeth.

13. Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr.Bydd yn hafan ddiogel i longau.Bydd ei ffin yn ymestyn at Sidon.

14. Mae Issachar fel asyn cryfyn gorwedd dan bwysau ei baciau.

15. Gwelodd le da i orffwysa bod y wlad yno yn hyfryd.Felly plygodd i lawr i dderbyn baich ar ei gefna chael ei hun yn gaethwas.

16. Bydd Dan yn rheoli ei boblfel un o lwythau Israel.

17. Boed i Dan fod fel neidr ar ochr y ffordd –fel gwiber ar y llwybryn brathu troed y ceffyla gwneud i'r marchog syrthio yn ôl.

18. Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, o ARGLWYDD!

19. Bydd ysbeilwyr yn ymosod ar Gad,ond bydd e'n troi ac yn eu gyrru nhw i ffwrdd.

20. Bydd bwyd cyfoethog gan Asher.Bydd e'n darparu danteithion i'r llys brenhinol.

21. Mae Nafftali fel ewig yn rhedeg yn rhydd,sy'n cael llydnod hardd.

22. Mae Joseff yn gangen ffrwythlon –cangen ffrwythlon wrth ffynnon,a'i changhennau'n ymestyn dros y wal.

23. Roedd bwasaethwyr yn ymosod arno,yn saethu ato ac yn dal dig yn ei erbyn.

24. Ond daliai ei fwa'n llonyddac roedd ei ddwylo a'i freichiau'n chwim.Roedd Un Cryf Jacob gydag e –y Bugail, Craig Israel.

25. Duw dy dad, yr un fydd yn dy helpu di;y Duw sy'n rheoli popeth.Bydd e'n dy fendithio digyda'r bendithion o'r awyr uchod,a'r bendithion sy'n gorwedd dan y ddaear isod,gyda bendithion y fron a'r groth.

26. Mae'r bendithion gafodd dy dadyn well na bendithion y mynyddoedd tragwyddola'r pethau da mae'r bryniau hynafol yn eu rhoi.Byddan nhw'n disgyn ar ben Joseff –ar dalcen yr un sy'n flaenaf ar ei frodyr.

27. Mae Benjamin fel blaidd rheibus,yn rhwygo ei ysglyfaeth yn y bore,ac yn rhannu beth sydd ar ôl gyda'r nos.”

28. Dyma'r deuddeg llwyth yn Israel. A dyma beth ddwedodd eu tad wrthyn nhw pan fendithiodd nhw. Rhoddodd fendith addas i bob un ohonyn nhw.

29. Wedyn rhoddodd Jacob orchymyn iddyn nhw. “Dw i'n mynd i farw cyn hir. Dw i eisiau i chi fy nghladdu gyda fy hynafiaid, yn yr ogof ar dir Effron yr Hethiad.