beibl.net 2015

Genesis 48:19-22 beibl.net 2015 (BNET)

19. Ond gwrthododd ei dad. “Dw i'n gwybod be dw i'n wneud, fy mab,” meddai. “Bydd hwn hefyd yn dod yn genedl fawr o bobl. Ond bydd ei frawd bach yn fwy nag e. Bydd ei ddisgynyddion yn llawer iawn o bobloedd gwahanol.”

20. Felly dyma fe'n eu bendithio nhw y diwrnod hwnnw drwy ddweud:“Bydd pobl Israel yn defnyddio dy enw i fendithio eraill:‘Boed i Dduw dy wneud di fel Effraim a Manasse.’”Enwodd Effraim gyntaf a Manasse wedyn.

21. Wedyn dyma Jacob yn dweud wrth Joseff, “Fel y gweli, dw i ar fin marw. Ond bydd Duw gyda ti, ac yn mynd â ti yn ôl i wlad dy hynafiaid.

22. Dw i am roi siâr fwy i ti nag i dy frodyr – llethrau mynydd Sichem, a gymerais oddi ar yr Amoriaid gyda'm cleddyf a'm bwa.”