beibl.net 2015

Genesis 47:25-31 beibl.net 2015 (BNET)

25. “Ti wedi achub ein bywydau ni,” medden nhw. “Ti wedi bod yn garedig iawn aton ni, a dŷn ni'n hapus i fod yn gaethweision i'r Pharo.”

26. Felly gwnaeth Joseff ddeddf yng ngwlad yr Aifft, fod y Pharo i gael un rhan o bump o'r cynhaeaf. (Mae'r ddeddf hon yn dal mewn grym heddiw). Yr unig dir sydd ddim yn perthyn i'r Pharo ydy tir yr offeiriaid.

27. Felly arhosodd pobl Israel yn yr Aifft, yn ardal Gosen. Nhw oedd piau'r tir yno. Cawson nhw lot o blant, ac roedd eu niferoedd yn mynd yn fwy ac yn fwy.

28. Buodd Jacob yn byw yn yr Aifft am un deg saith mlynedd. Felly cafodd fyw i fod yn 147 oed.

29. Cyn i Jacob farw, galwodd am ei fab Joseff, a dwedodd wrtho, “Mae gen i ffafr i'w gofyn gen ti. Dw i am i ti fynd ar dy lw ac addo y byddi di'n gwneud be dw i'n ofyn. Plîs paid claddu fi yn yr Aifft.

30. Pan fydda i wedi marw fel fy hynafiaid, dos â fi o'r Aifft. Cladda fi ble mae fy hynafiaid wedi eu claddu.” A dyma Joseff yn ateb, “Dw i'n addo gwneud beth ti'n ofyn.”

31. “Dw i eisiau i ti fynd ar dy lw y gwnei di,” meddai Jacob. A dyma Joseff yn addo iddo. A dyma Jacob yn plygu drosodd ar ben ei wely.