beibl.net 2015

Genesis 47:23-29 beibl.net 2015 (BNET)

23. A dyma Joseff yn dweud wrth y bobl, “Heddiw dw i wedi'ch prynu chi a'ch tir i'r Pharo. Felly dyma had i chi ei hau ar y tir.

24. Adeg y cynhaeaf, rhaid i chi roi un rhan o bump o'r cnwd i'r Pharo. Gewch chi gadw'r gweddill i'w hau y flwyddyn ganlynol ac i fwydo'ch teuluoedd a'ch plant.”

25. “Ti wedi achub ein bywydau ni,” medden nhw. “Ti wedi bod yn garedig iawn aton ni, a dŷn ni'n hapus i fod yn gaethweision i'r Pharo.”

26. Felly gwnaeth Joseff ddeddf yng ngwlad yr Aifft, fod y Pharo i gael un rhan o bump o'r cynhaeaf. (Mae'r ddeddf hon yn dal mewn grym heddiw). Yr unig dir sydd ddim yn perthyn i'r Pharo ydy tir yr offeiriaid.

27. Felly arhosodd pobl Israel yn yr Aifft, yn ardal Gosen. Nhw oedd piau'r tir yno. Cawson nhw lot o blant, ac roedd eu niferoedd yn mynd yn fwy ac yn fwy.

28. Buodd Jacob yn byw yn yr Aifft am un deg saith mlynedd. Felly cafodd fyw i fod yn 147 oed.

29. Cyn i Jacob farw, galwodd am ei fab Joseff, a dwedodd wrtho, “Mae gen i ffafr i'w gofyn gen ti. Dw i am i ti fynd ar dy lw ac addo y byddi di'n gwneud be dw i'n ofyn. Plîs paid claddu fi yn yr Aifft.