beibl.net 2015

Genesis 47:15-28 beibl.net 2015 (BNET)

15. Pan oedd dim arian ar ôl yn yr Aifft na gwlad Canaan, dyma'r Eifftiaid yn mynd at Joseff eto. “Rho fwyd i ni. Pam ddylen ni orfod marw am fod gynnon ni ddim arian?” medden nhw.

16. Atebodd Joseff, “Os nad oes gynnoch chi arian, rhowch eich anifeiliaid i mi. Rho i fwyd i chi am eich anifeiliaid.”

17. Felly dyma nhw'n dod â'u hanifeiliaid i Joseff. A rhoddodd Joseff fwyd iddyn nhw am eu ceffylau, eu defaid a'u geifr, eu gwartheg a'u hasynnod. Y flwyddyn honno rhoddodd fwyd iddyn nhw yn gyfnewid am eu hanifeiliaid.

18. Pan ddaethon nhw yn ôl y flwyddyn wedyn, dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae ein meistr yn gwybod nad oes gynnon ni arian, ac mae'n meistr hefyd wedi cymryd ein hanifeiliaid ni. Does gynnon ni ddim byd ar ôl i'w gynnig ond ni'n hunain a'n tir.

19. Beth ydy'r pwynt os gwnawn ni farw? Pryna ni a'n tir am fwyd. Gwna ni'n gaethweision i'r Pharo, a chymer ein tir ni hefyd. Mae'n well i ni gael byw na marw, ac wedyn fydd y wlad i gyd ddim wedi ei difetha.”

20. Felly dyma Joseff yn prynu tir yr Aifft i gyd i'r Pharo. Roedd yr Eifftiaid i gyd yn gwerthu eu caeau iddo, am eu bod nhw'n diodde mor ofnadwy o achos y newyn. Felly'r Pharo oedd piau'r tir i gyd.

21. A dyma'r bobl o un pen i'r wlad i'r llall yn cael eu gwneud yn gaethweision.

22. (Yr unig dir wnaeth e ddim ei brynu oedd tir yr offeiriaid. Roedd yr offeiriaid yn cael lwfans gan y brenin, ac yn byw ar y lwfans hwnnw. Felly wnaethon nhw ddim gwerthu eu tir.)

23. A dyma Joseff yn dweud wrth y bobl, “Heddiw dw i wedi'ch prynu chi a'ch tir i'r Pharo. Felly dyma had i chi ei hau ar y tir.

24. Adeg y cynhaeaf, rhaid i chi roi un rhan o bump o'r cnwd i'r Pharo. Gewch chi gadw'r gweddill i'w hau y flwyddyn ganlynol ac i fwydo'ch teuluoedd a'ch plant.”

25. “Ti wedi achub ein bywydau ni,” medden nhw. “Ti wedi bod yn garedig iawn aton ni, a dŷn ni'n hapus i fod yn gaethweision i'r Pharo.”

26. Felly gwnaeth Joseff ddeddf yng ngwlad yr Aifft, fod y Pharo i gael un rhan o bump o'r cynhaeaf. (Mae'r ddeddf hon yn dal mewn grym heddiw). Yr unig dir sydd ddim yn perthyn i'r Pharo ydy tir yr offeiriaid.

27. Felly arhosodd pobl Israel yn yr Aifft, yn ardal Gosen. Nhw oedd piau'r tir yno. Cawson nhw lot o blant, ac roedd eu niferoedd yn mynd yn fwy ac yn fwy.

28. Buodd Jacob yn byw yn yr Aifft am un deg saith mlynedd. Felly cafodd fyw i fod yn 147 oed.