beibl.net 2015

Genesis 46:13-30 beibl.net 2015 (BNET)

13. Meibion Issachar: Tola, Pwa, Job a Shimron.

14. Meibion Sabulon: Sered, Elon a Iachle-el.

15. Dyna'r meibion gafodd Lea i Jacob yn Padan-aram. Ac roedd wedi cael un ferch hefyd, sef Dina. Felly roedd 33 ohonyn nhw i gyd.

16. Meibion Gad: Siffion, Haggi, Shwni, Etsbon, Eri, Arodi ac Areli.

17. Meibion Asher: Imna, Ishfa, Ishfi, Bereia, a'u chwaer Serach. Ac roedd gan Bereia ddau fab: Heber a Malciel.

18. Dyna'r meibion gafodd Silpa (y forwyn roddodd Laban i'w ferch Lea). Roedd 16 i gyd.

19. Meibion Rachel gwraig Jacob oedd Joseff a Benjamin.

20. Cafodd Joseff ddau fab yn yr Aifft: Manasse ac Effraim (Asnath, merch Potiffera offeiriad Heliopolis oedd eu mam.)

21. Meibion Benjamin: Bela, Becher, Ashbel, Gera, Naaman, Echi, Rosh, Mwppîm, Chwppîm ac Ard.

22. Dyma'r meibion gafodd Rachel. Felly roedd 14 yn ddisgynyddion i Rachel a Jacob.

23. Meibion Dan: y Chwshiaid.

24. Meibion Nafftali: Iachtseël, Gwni, Ieser a Shilem.

25. Dyma'r meibion gafodd Bilha (y forwyn roddodd Laban i'w ferch Rachel). Roedd saith yn ddisgynyddion i Jacob a Bilha.

26. Felly roedd 66 o ddisgynyddion Jacob wedi mynd gydag e i'r Aifft. (Dydy'r rhif yma ddim yn cynnwys gwragedd ei feibion.)

27. Gyda'r ddau fab gafodd eu geni i Joseff yn yr Aifft, roedd 70 o bobl o deulu Jacob yn yr Aifft.

28. Dyma Jacob yn anfon Jwda o'i flaen at Joseff i ddod â Joseff ato i Gosen. Wedyn dyma nhw'n cyrraedd ardal Gosen.

29. Cafodd Joseff ei gerbyd yn barod, a mynd yno i gyfarfod ei dad. Pan ddaeth at ei dad dyma fe'n ei gofleidio'n dynn, a bu'n crïo ar ei ysgwydd am hir.

30. “Dw i'n barod i farw bellach,” meddai Jacob wrth Joseff. “Dw i wedi cael gweld dy fod ti'n dal yn fyw.”