1. Felly dyma Jacob yn cychwyn ar ei daith, a mynd â phopeth oedd ganddo gydag e. Daeth i Beersheba a chyflwyno aberthau i Dduw ei dad Isaac.
2. Yn ystod y nos dyma Jacob yn cael gweledigaeth. “Jacob, Jacob” meddai Duw wrtho. Ac atebodd Jacob, “Ie? dyma fi.”
3. Ac meddai Duw, “Fi ydy Duw – Duw dy dad. Paid bod ag ofn mynd i lawr i'r Aifft. Bydda i'n dy wneud di'n genedl fawr yno.
4. Dw i'n mynd gyda ti i'r Aifft, a bydda i'n dod â ti yn ôl eto. Bydd Joseff gyda ti pan fyddi di farw.”
5. Yna aeth Jacob yn ei flaen o Beersheba. Dyma feibion Jacob yn rhoi eu tad, a'u gwragedd a'u plant yn y wagenni roedd y Pharo wedi eu hanfon iddyn nhw.
6. A dyma nhw'n mynd â'i hanifeiliaid gyda nhw, a'r eiddo roedden nhw wedi ei gasglu pan oedden nhw'n byw yng ngwlad Canaan. Dyma Jacob a'i deulu i gyd yn cyrraedd gwlad yr Aifft: