21. Ond medden nhw wrth ei gilydd, “Dŷn ni'n talu'r pris am beth wnaethon ni i'n brawd. Roedden ni'n gweld yn iawn gymaint roedd e wedi dychryn, pan oedd yn pledio am drugaredd. Ond wnaethon ni ddim gwrando. Dyna pam mae hyn i gyd wedi digwydd i ni.”
22. “Ddwedais i wrthoch chi am beidio gwneud niwed i'r bachgen, ond wnaethoch chi ddim gwrando,” meddai Reuben. “A nawr mae'n rhaid i ni dalu am dywallt ei waed!”
23. (Doedden nhw ddim yn sylweddoli fod Joseff yn deall popeth roedden nhw'n ei ddweud. Roedd wedi bod yn siarad â nhw drwy gyfieithydd.)
24. Dyma Joseff yn eu gadael nhw ac yn torri i lawr i grïo. Pan ddaeth yn ôl i siarad â nhw eto, dyma fe'n dewis Simeon i'w gadw yn y ddalfa, a gorchymyn ei rwymo yn y fan a'r lle.
25. Wedyn dyma Joseff yn gorchymyn llenwi eu sachau ag ŷd, rhoi arian pob un ohonyn nhw yn ôl yn ei sach, a rhoi bwyd iddyn nhw ar gyfer y daith. A dyna wnaed.
26. Dyma'r brodyr yn llwytho eu hasynnod a mynd.
27. Pan wnaethon nhw stopio i aros dros nos, agorodd un ohonyn nhw ei sach i fwydo'i asyn. A dyna lle roedd ei arian yng ngheg y sach.
28. Aeth i ddweud wrth ei frodyr, “Mae fy arian wedi cael ei roi yn ôl. Roedd yn y sach!” Roedden nhw wedi dychryn go iawn. “Be mae Duw wedi ei wneud?” medden nhw.
29. Pan gyrhaeddon nhw adre i wlad Canaan at eu tad Jacob, dyma nhw'n dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd.
30. “Roedd llywodraethwr y wlad yn gas gyda ni ac yn ein cyhuddo ni o fod yn ysbiwyr.
31. Dwedon ni wrtho ‘Dŷn ni'n ddynion gonest, dim ysbiwyr.
32. Teulu o ddeuddeg brawd, meibion i'r un tad. Mae un brawd wedi marw, ac mae'r ifancaf adre gyda'n tad yng ngwlad Canaan.’
33. A dyma'r dyn oedd yn rheoli'r wlad yn dweud fel hyn, ‘Dyma sut fydda i'n gwybod os ydych chi'n ddynion gonest. Rhaid i un ohonoch chi aros yma gyda mi. Caiff y gweddill ohonoch chi fynd. Ewch ag ŷd i fwydo'ch teuluoedd.