9. Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Cain, “Ble mae Abel, dy frawd di?” Atebodd Cain, “Dw i ddim yn gwybod. Ai fi sydd i fod i ofalu am fy mrawd?”
10. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Beth yn y byd wyt ti wedi'i wneud? Gwranda! Mae gwaed dy frawd yn gweiddi arna i o'r pridd.
11. Melltith arnat ti. Rhaid i ti adael y tir yma lyncodd waed dy frawd pan wnest ti ei ladd.
12. Byddi'n ceisio trin y tir ond yn methu cael cnwd da ohono. Byddi'n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad.”
13. Ac meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, “Mae'r gosb yn ormod i mi ei chymryd!
14. Rwyt ti wedi fy ngyrru i ffwrdd o'r tir, a bydda i wedi fy nhorri i ffwrdd oddi wrthot ti. Bydda i'n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad, a bydd pwy bynnag sy'n dod o hyd i mi yn fy lladd i.”
15. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Na. Bydd pwy bynnag sy'n lladd Cain yn cael ei gosbi saith gwaith drosodd.” A dyma'r ARGLWYDD yn marcio Cain i ddangos iddo na fyddai'n cael ei ladd gan bwy bynnag fyddai'n dod o hyd iddo.
16. Felly aeth Cain i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD a mynd i fyw i wlad Nod i'r dwyrain o Eden.
17. Cysgodd Cain gyda'i wraig, a dyma hi'n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Enoch. Roedd Cain yn adeiladu pentref gyda wal i'w amddiffyn, a galwodd y pentref yn ‛Enoch‛ ar ôl ei fab.
18. Roedd Enoch yn dad i Irad, Irad yn dad i Mechwia-el, Mechwia-el yn dad i Methwsha-el, a Methwsha-el yn dad i Lamech.
19. Dyma Lamech yn cymryd dwy wraig – Ada oedd enw un a Sila oedd y llall.
20. Cafodd Ada blentyn, sef Iabal. Iabal oedd y cyntaf i fyw mewn pebyll a chadw anifeiliaid.
21. Roedd ganddo frawd o'r enw Iwbal. Iwbal oedd y cyntaf i ganu'r delyn a'r ffliwt.
22. Dyma Sila, y wraig arall, yn cael plentyn hefyd, sef Twbal-cain. Fe oedd y cyntaf i weithio gyda metelau, a gwneud offer pres a haearn. Roedd gan Twbal-cain chwaer o'r enw Naäma.
23. Dyma Lamech yn dweud wrth ei wragedd:“Ada a Sila, gwrandwch arna i!Wragedd Lamech, sylwch beth dw i'n ddweud:Byddwn i'n lladd dyn am fy anafu i,neu blentyn am fy nharo i.
24. Os bydd y dial am Cain saith gwaith gwaeth,bydd y dial am Lamech saith deg saith gwaith!”
25. Dyma Adda'n cysgu gyda'i wraig eto, a dyma hi'n cael mab arall. Galwodd hwn yn Seth, “am fod Duw wedi rhoi plentyn i mi yn lle Abel, ar ôl i Cain ei ladd.”
26. Cafodd Seth fab, a'i alw yn Enosh. Dyma pryd y dechreuodd pobl addoli'r ARGLWYDD.