beibl.net 2015

Genesis 4:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Cysgodd Adda gyda'i wraig Efa, a dyma hi'n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Cain, ac meddai, “Dw i wedi creu plentyn, gyda help yr ARGLWYDD.”

2. Wedyn cafodd blentyn arall, brawd i Cain, sef Abel.Tyfodd Abel i fod yn fugail, ond roedd Cain yn trin y tir.

3. Adeg y cynhaeaf daeth Cain â peth o gynnyrch y tir i'w roi yn offrwm i'r ARGLWYDD.

4. Daeth Abel â rhai o ŵyn cyntaf y praidd, a rhoi'r rhai gorau yn offrwm i Dduw. Roedd Abel a'i offrwm yn plesio'r ARGLWYDD,

5. ond wnaeth e ddim cymryd sylw o Cain a'i offrwm. Roedd Cain wedi gwylltio'n lân. Roedd i'w weld ar ei wyneb!

6. Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Cain, “Ydy'n iawn dy fod ti wedi gwylltio fel yma? Pam wyt ti mor ddig?

7. Os gwnei di beth sy'n iawn bydd pethau'n gwella. Ond os na wnei di beth sy'n iawn, mae pechod fel anifail yn llechu wrth y drws. Mae am dy gael di, ond rhaid i ti ei reoli.”

8. Dwedodd Cain wrth ei frawd, “Gad i ni fynd allan i gefn gwlad.” Yna pan oedden nhw allan yng nghefn gwlad dyma Cain yn ymosod ar ei frawd Abel a'i ladd.

9. Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Cain, “Ble mae Abel, dy frawd di?” Atebodd Cain, “Dw i ddim yn gwybod. Ai fi sydd i fod i ofalu am fy mrawd?”

10. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Beth yn y byd wyt ti wedi'i wneud? Gwranda! Mae gwaed dy frawd yn gweiddi arna i o'r pridd.