beibl.net 2015

Genesis 37:25-36 beibl.net 2015 (BNET)

25. Pan oedden nhw'n eistedd i lawr i fwyta, dyma nhw'n gweld carafan o Ismaeliaid yn teithio o gyfeiriad Gilead. Roedd ganddyn nhw gamelod yn cario gwm balm, a myrr i lawr i'r Aifft.

26. A dyma Jwda'n dweud wrth ei frodyr, “Dŷn ni'n ennill dim trwy ladd ein brawd a cheisio cuddio'r ffaith.

27. Dewch, gadewch i ni ei werthu e i'r Ismaeliaid acw. Ddylen ni ddim gwneud niwed iddo. Wedi'r cwbl mae yn frawd i ni.” A dyma'r brodyr yn cytuno.

28. Felly pan ddaeth y masnachwyr o Midian heibio, dyma nhw'n tynnu Joseff allan o'r pydew, a'i werthu i'r Ismaeliaid am 20 darn o arian. A dyma'r Ismaeliaid yn mynd â Joseff gyda nhw i'r Aifft.

29. Yn nes ymlaen dyma Reuben yn dod yn ôl at y pydew. Pan welodd fod Joseff ddim yno dyma fe'n rhwygo ei ddillad.

30. Aeth at ei frodyr, a dweud, “Mae'r bachgen wedi mynd! Be dw i'n mynd i'w wneud nawr?”

31. Yna dyma nhw'n cymryd côt Joseff, lladd gafr ac yna trochi'r got yng ngwaed yr anifail.

32. Wedyn dyma nhw'n mynd â'r got sbesial at eu tad, a dweud, “Daethon ni o hyd i hon. Pwy sydd piau hi? Ai côt dy fab di ydy hi neu ddim?”

33. Dyma fe'n nabod y got. “Ie, côt fy mab i ydy hi! Mae'n rhaid bod anifail gwyllt wedi ymosod arno a'i rwygo'n ddarnau!”

34. A dyma Jacob yn rhwygo ei ddillad a gwisgo sachliain. A buodd yn galaru am ei fab am amser hir.

35. Roedd ei feibion a'i ferched i gyd yn ceisio ei gysuro, ond roedd yn gwrthod codi ei galon. “Dw i'n mynd i fynd i'r bedd yn dal i alaru am fy mab,” meddai. Ac roedd yn beichio crïo.

36. Yn y cyfamser roedd y Midianiaid wedi gwerthu Joseff yn yr Aifft. Cafodd ei werthu i Potiffar, un o swyddogion y Pharo a chapten ei warchodlu.