beibl.net 2015

Genesis 35:7-23 beibl.net 2015 (BNET)

7. Cododd allor yno a galw'r lle yn El-bethel, am mai dyna ble roedd Duw wedi ymddangos iddo pan oedd yn dianc oddi wrth ei frawd Esau.

8. A dyma Debora (sef y forwyn oedd wedi magu Rebeca pan oedd hi'n ferch fach) yn marw yno. Cafodd ei chladdu dan y dderwen oedd islaw Bethel. Felly cafodd y lle ei alw yn Dderwen yr Wylo.

9. A dyma Duw yn ymddangos i Jacob eto, a'i fendithio (ar ôl iddo ddod o Padan-aram).

10. Dwedodd Duw wrtho, “Jacob ydy dy enw di, ond fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di.” Dyna sut cafodd e'r enw Israel.

11. Yna dwedodd Duw wrtho, “Fi ydy'r Duw sy'n rheoli popeth. Dw i eisiau i ti gael lot o blant. Bydd cenedl – ie, hyd yn oed grŵp o genhedloedd – yn dod ohonot ti. Bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd.

12. Ti sydd i gael y wlad rois i i Abraham ac Isaac, a bydd yn perthyn i dy ddisgynyddion ar dy ôl di.”

13. Wedyn dyma Duw yn gadael y lle ble roedd wedi siarad â Jacob.

14. Dyma Jacob yn codi colofn gysegredig ble roedd Duw wedi siarad gydag e. Colofn garreg oedd hi, a tywalltodd offrwm o ddiod drosti, ac olew hefyd.

15. Galwodd Jacob y lle hwnnw ble roedd Duw wedi siarad gydag e yn Bethel.

16. Dyma nhw'n teithio ymlaen o Bethel. Roedden nhw'n dal yn eitha pell o Effrath pan ddechreuodd Rachel gael babi – ac roedd yr enedigaeth yn galed.

17. Pan oedd y sefyllfa ar ei gwaethaf dyma'r fydwraig yn dweud wrth Rachel, “Paid bod ag ofn. Mae gen ti fab arall ar ei ffordd.”

18. A dyma Rachel yn marw. Wrth iddi dynnu ei hanadl olaf, dyma hi'n galw'r plentyn yn Ben-oni; ond galwodd ei dad e yn Benjamin.

19. Buodd Rachel farw, a chafodd ei chladdu ar ochr y ffordd oedd yn mynd i Effrath (sef, Bethlehem).

20. Cododd Jacob gofgolofn wrth ei bedd, ac mae yno hyd heddiw – Cofeb Bedd Rachel.

21. Teithiodd Israel (sef Jacob) yn ei flaen, a gwersylla yr ochr draw i Migdal-eder.

22. Tra roedd yn byw yno, dyma Reuben yn cysgu gyda Bilha, partner ei dad. A daeth Israel i glywed am y peth.Roedd gan Jacob un deg dau o feibion:

23. Meibion Lea: Reuben (mab hynaf Jacob), Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.