beibl.net 2015

Genesis 35:4-18 beibl.net 2015 (BNET)

4. Felly dyma nhw'n rhoi'r duwiau eraill oedd ganddyn nhw i Jacob, a'r clustdlysau hefyd. Dyma Jacob yn claddu'r cwbl dan y dderwen oedd wrth Sichem,

5. a dyma nhw'n cychwyn ar eu taith. Roedd Duw wedi creu panig yn y trefi o gwmpas, ac felly wnaeth neb geisio ymosod arnyn nhw.

6. Felly dyma Jacob a'r bobl oedd gydag e yn cyrraedd Lws (sef Bethel), yng ngwlad Canaan.

7. Cododd allor yno a galw'r lle yn El-bethel, am mai dyna ble roedd Duw wedi ymddangos iddo pan oedd yn dianc oddi wrth ei frawd Esau.

8. A dyma Debora (sef y forwyn oedd wedi magu Rebeca pan oedd hi'n ferch fach) yn marw yno. Cafodd ei chladdu dan y dderwen oedd islaw Bethel. Felly cafodd y lle ei alw yn Dderwen yr Wylo.

9. A dyma Duw yn ymddangos i Jacob eto, a'i fendithio (ar ôl iddo ddod o Padan-aram).

10. Dwedodd Duw wrtho, “Jacob ydy dy enw di, ond fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di.” Dyna sut cafodd e'r enw Israel.

11. Yna dwedodd Duw wrtho, “Fi ydy'r Duw sy'n rheoli popeth. Dw i eisiau i ti gael lot o blant. Bydd cenedl – ie, hyd yn oed grŵp o genhedloedd – yn dod ohonot ti. Bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd.

12. Ti sydd i gael y wlad rois i i Abraham ac Isaac, a bydd yn perthyn i dy ddisgynyddion ar dy ôl di.”

13. Wedyn dyma Duw yn gadael y lle ble roedd wedi siarad â Jacob.

14. Dyma Jacob yn codi colofn gysegredig ble roedd Duw wedi siarad gydag e. Colofn garreg oedd hi, a tywalltodd offrwm o ddiod drosti, ac olew hefyd.

15. Galwodd Jacob y lle hwnnw ble roedd Duw wedi siarad gydag e yn Bethel.

16. Dyma nhw'n teithio ymlaen o Bethel. Roedden nhw'n dal yn eitha pell o Effrath pan ddechreuodd Rachel gael babi – ac roedd yr enedigaeth yn galed.

17. Pan oedd y sefyllfa ar ei gwaethaf dyma'r fydwraig yn dweud wrth Rachel, “Paid bod ag ofn. Mae gen ti fab arall ar ei ffordd.”

18. A dyma Rachel yn marw. Wrth iddi dynnu ei hanadl olaf, dyma hi'n galw'r plentyn yn Ben-oni; ond galwodd ei dad e yn Benjamin.