19. “Byddai'n well gen i ei rhoi hi i ti nag i unrhyw ddyn arall,” meddai Laban. “Aros di yma i weithio i mi.”
20. Felly dyma Jacob yn gweithio am saith mlynedd er mwyn cael priodi Rachel. Ond roedd fel ychydig ddyddiau i Jacob am ei fod yn ei charu hi gymaint.
21. Ar ddiwedd y saith mlynedd dyma Jacob yn dweud wrth Laban, “Dw i wedi gweithio am yr amser wnaethon ni gytuno, felly rho fy ngwraig i mi, i mi gael cysgu hefo hi.”
22. Felly dyma Laban yn trefnu parti i ddathlu, ac yn gwahodd pobl y cylch i gyd i'r parti.
23. Ond ar ddiwedd y noson daeth Laban â'i ferch Lea at Jacob, a dyma Jacob yn cysgu gyda hi.
24. (Ac roedd Laban wedi rhoi ei forwyn Silpa i'w ferch Lea i fod yn forwyn iddi hi.)
25. Y bore wedyn cafodd Jacob sioc – dyna ble roedd Lea yn gorwedd gydag e! Aeth at Laban, “Beth yn y byd rwyt ti wedi ei wneud i mi?” meddai Jacob. “Roeddwn i wedi gweithio i ti er mwyn cael Rachel. Pam wyt ti wedi fy nhwyllo i?”
26. Ac meddai Laban, “Mae'n groes i'r arferiad yn ein gwlad ni i'r ferch ifancaf briodi o flaen yr hynaf.
27. Disgwyl nes bydd yr wythnos yma o ddathlu drosodd, a gwna i roi Rachel i ti hefyd os gwnei di weithio i mi am saith mlynedd arall.”
28. Felly dyna wnaeth Jacob. Arhosodd nes oedd yr wythnos o ddathlu drosodd, ac wedyn dyma Laban yn rhoi ei ferch Rachel iddo hefyd.
29. (A rhoddodd ei forwyn Bilha i'w ferch Rachel i fod yn forwyn iddi hi.)