beibl.net 2015

Genesis 29:17-32 beibl.net 2015 (BNET)

17. Roedd gan Lea lygaid hyfryd, ond roedd Rachel yn ferch siapus ac yn wirioneddol hardd.

18. Roedd Jacob wedi syrthio mewn cariad hefo Rachel, ac meddai wrth Laban, “Gwna i weithio i ti am saith mlynedd os ca i briodi Rachel, dy ferch ifancaf.”

19. “Byddai'n well gen i ei rhoi hi i ti nag i unrhyw ddyn arall,” meddai Laban. “Aros di yma i weithio i mi.”

20. Felly dyma Jacob yn gweithio am saith mlynedd er mwyn cael priodi Rachel. Ond roedd fel ychydig ddyddiau i Jacob am ei fod yn ei charu hi gymaint.

21. Ar ddiwedd y saith mlynedd dyma Jacob yn dweud wrth Laban, “Dw i wedi gweithio am yr amser wnaethon ni gytuno, felly rho fy ngwraig i mi, i mi gael cysgu hefo hi.”

22. Felly dyma Laban yn trefnu parti i ddathlu, ac yn gwahodd pobl y cylch i gyd i'r parti.

23. Ond ar ddiwedd y noson daeth Laban â'i ferch Lea at Jacob, a dyma Jacob yn cysgu gyda hi.

24. (Ac roedd Laban wedi rhoi ei forwyn Silpa i'w ferch Lea i fod yn forwyn iddi hi.)

25. Y bore wedyn cafodd Jacob sioc – dyna ble roedd Lea yn gorwedd gydag e! Aeth at Laban, “Beth yn y byd rwyt ti wedi ei wneud i mi?” meddai Jacob. “Roeddwn i wedi gweithio i ti er mwyn cael Rachel. Pam wyt ti wedi fy nhwyllo i?”

26. Ac meddai Laban, “Mae'n groes i'r arferiad yn ein gwlad ni i'r ferch ifancaf briodi o flaen yr hynaf.

27. Disgwyl nes bydd yr wythnos yma o ddathlu drosodd, a gwna i roi Rachel i ti hefyd os gwnei di weithio i mi am saith mlynedd arall.”

28. Felly dyna wnaeth Jacob. Arhosodd nes oedd yr wythnos o ddathlu drosodd, ac wedyn dyma Laban yn rhoi ei ferch Rachel iddo hefyd.

29. (A rhoddodd ei forwyn Bilha i'w ferch Rachel i fod yn forwyn iddi hi.)

30. Felly dyma Jacob yn cysgu gyda Rachel. Roedd yn caru Rachel fwy na Lea. A gweithiodd i Laban am saith mlynedd arall.

31. Pan welodd yr ARGLWYDD fod Jacob ddim yn caru Lea gymaint a Rachel, rhoddodd blant i Lea. Ond roedd Rachel yn methu cael plant.

32. Dyma Lea'n beichiogi ac yn cael mab ac yn ei alw'n Reuben. “Mae'r ARGLWYDD wedi gweld fy mod i'n cael fy nhrin yn wael,” meddai. “Bydd fy ngŵr yn siŵr o ngharu i nawr!”