beibl.net 2015

Genesis 27:30-41 beibl.net 2015 (BNET)

30. Roedd Isaac newydd orffen bendithio Jacob, a Jacob prin wedi gadael, pan ddaeth Esau i mewn ar ôl bod yn hela.

31. Dyma yntau'n paratoi bwyd blasus, a mynd ag e i'w dad. “Tyrd, eistedd, i ti gael bwyta o helfa dy fab, ac wedyn cei fy mendithio i.”

32. “Pwy wyt ti?” meddai Isaac wrtho. “Esau, dy fab hynaf,” meddai yntau.

33. Dechreuodd Isaac grynu drwyddo'n afreolus. “Ond pwy felly ddaeth â bwyd i mi ar ôl bod allan yn hela? Dw i newydd fwyta cyn i ti ddod i mewn, a'i fendithio fe. Bydd e wir yn cael ei fendithio!”

34. Pan glywodd Esau beth ddwedodd ei dad, dyma fe'n sgrechian gweiddi'n chwerw. “Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” meddai.

35. Ond meddai Isaac, “Mae dy frawd wedi fy nhwyllo i, a dwyn dy fendith.”

36. “Mae'r enw Jacob yn ei ffitio i'r dim!” meddai Esau. “Dyma'r ail waith iddo fy nisodli. Mae wedi cymryd fy hawliau fel y mab hynaf oddi arna i, a nawr mae e wedi dwyn fy mendith i.” Ac meddai wrth ei dad, “Wyt ti ddim wedi cadw un fendith i mi?”

37. Ond dyma Isaac yn ei ateb, “Dw i wedi ei wneud yn feistr arnat ti. Bydd ei berthnasau i gyd yn ei wasanaethu. Bydd ganddo ddigon o ŷd a sudd grawnwin i'w gynnal. Felly beth sydd ar ôl i mi ei roi i ti, fy mab?”

38. “Ai dim ond un fendith sydd gen ti, dad? Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” A dyma Esau'n dechrau crïo'n uchel.

39. Felly dyma Isaac, ei dad, yn dweud fel hyn:“Byddi di'n byw heb gael cnydau da o'r tir,a heb wlith o'r awyr.

40. Byddi di'n byw drwy ymladd â'r cleddyf,ac yn gwasanaethu dy frawd.Ond byddi di'n gwrthryfela, ac yn torri'r iau oedd wedi ei rhoi ar dy ysgwyddau.”

41. Roedd Esau yn casáu Jacob o achos y fendith roedd ei dad wedi ei rhoi iddo. “Bydd dad wedi marw cyn bo hir,” meddai'n breifat. “A dw i'n mynd i ladd Jacob wedyn.”