1. Roedd Isaac yn hen ddyn ac yn dechrau mynd yn ddall. Dyma fe'n galw Esau, ei fab hynaf ato,
2. a dweud, “Gwranda, dw i wedi mynd yn hen, a gallwn i farw unrhyw bryd.
3. Cymer dy fwa, a chawell o saethau, a dos allan i hela i mi.
4. Wedyn dw i am i ti baratoi y math o fwyd blasus dw i'n ei hoffi, i mi gael bwyta. Dw i wir eisiau dy fendithio di cyn i mi farw.”
5. Tra roedd Isaac yn dweud hyn wrth Esau, roedd Rebeca wedi bod yn gwrando. Felly pan aeth Esau allan i hela
6. dyma Rebeca'n mynd at Jacob a dweud wrtho, “Dw i newydd glywed dy dad yn dweud wrth Esau dy frawd,
7. ‘Dos allan i hela a gwneud bwyd blasus i mi ei fwyta. Wedyn gwna i dy fendithio di o flaen yr ARGLWYDD cyn i mi farw.’
8. Felly gwna yn union fel dw i'n dweud.