43. Dw i'n sefyll wrth ymyl y ffynnon yma. Dw i am ofyn i un o'r merched ifanc sy'n dod i godi dŵr, “Ga i ychydig ddŵr i'w yfed gen ti?”
44. Os bydd hi'n ateb, “Cei, wrth gwrs. Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd,” – hi fydd y ferch mae'r ARGLWYDD wedi ei dewis i fod yn wraig i fab fy meistr.’
45. Roeddwn i'n dal i weddïo'n dawel pan gyrhaeddodd Rebeca â jwg dŵr ar ei hysgwydd. Aeth i lawr at y pydew i godi dŵr. A dyma fi'n gofyn iddi, ‘Plîs ga i ddiod o ddŵr gen ti.’
46. Dyma hi'n tynnu'r jwg i lawr oddi ar ei hysgwydd, a dweud, ‘Cei, wrth gwrs. Gad i mi roi dŵr i dy gamelod di hefyd.’ Felly dyma fi'n yfed, a dyma hi'n rhoi dŵr i'r camelod hefyd.
47. Wedyn dyma fi'n gofyn iddi, ‘Merch pwy wyt ti?’ A dyma hi'n ateb, ‘Dw i'n ferch i Bethwel, mab Nachor a'i wraig Milca.’ Felly dyma fi'n rhoi'r fodrwy drwyn a'r breichledau iddi.
48. Wedyn dyma fi'n plygu i addoli'r ARGLWYDD. Roeddwn i'n moli'r ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, am ei fod wedi fy arwain i at wyres ei frawd.
49. Dyna ddigwyddodd, felly beth amdani? Ydych chi'n mynd i fod yn garedig at fy meistr neu ddim? Dwedwch wrtho i, er mwyn i mi wybod beth i'w wneud nesa.”
50. Dyma Laban a Bethwel yn dweud, “Mae'r ARGLWYDD tu ôl i hyn i gyd. Does dim byd allwn ni ei ddweud.
51. Dyma Rebeca; dos â hi gyda ti. Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ddigon clir mai hi sydd i fod yn wraig i fab dy feistr.”
52. Pan glywodd gwas Abraham hyn, ymgrymodd yn isel o flaen yr ARGLWYDD.
53. Wedyn dyma fe'n estyn tlysau arian ac aur, a dillad, a'u rhoi i Rebeca. Rhoddodd anrhegion drud i'w brawd a'i mam hefyd.