19. Ar ôl gwneud hynny, dyma hi'n dweud, “Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd, nes byddan nhw wedi cael digon i'w yfed.”
20. Felly dyma hi'n gwagio'r dŵr oedd ganddi yn ei jwg i'r cafn anifeiliaid, a mynd yn ôl at y pydew i godi mwy o ddŵr. A gwnaeth hynny nes oedd hi wedi codi digon o ddŵr i'r camelod i gyd.
21. Ddwedodd y gwas ddim byd. Roedd yn sefyll yno yn syllu arni, i weld os oedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud yn llwyddiannus ai peidio.
22. Pan oedd y camelod wedi gorffen yfed, dyma'r gwas yn rhoi modrwy drwyn werthfawr i'r ferch ifanc, a dwy freichled aur gostus hefyd.
23. Gofynnodd iddi, “Merch pwy wyt ti? Fyddai gan dy dad le i ni aros dros nos?”
24. Atebodd hithau, “Dw i'n ferch i Bethwel, mab Milca a Nachor.
25. Mae gynnon ni ddigon o wellt a bwyd i'r camelod, a lle i chithau aros dros nos.”
26. Dyma'r gwas yn plygu i lawr ac yn addoli'r ARGLWYDD.
27. “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Abraham, fy meistr! Mae wedi bod yn gwbl ffyddlon i'w addewid. Mae'r ARGLWYDD wedi fy arwain i gartref teulu fy meistr!”
28. Rhedodd y ferch ifanc adre at ei mam, a dweud wrthi hi a phawb arall oedd yno am beth oedd wedi digwydd.
29. Roedd gan Rebeca frawd o'r enw Laban, a dyma Laban yn brysio allan i gyfarfod y dyn wrth y pydew.
30. Ar ôl gweld y fodrwy drwyn a'r breichledau roedd ei chwaer Rebeca'n eu gwisgo, a chlywed beth roedd y dyn wedi ei ddweud wrthi, aeth allan ato ar unwaith. A dyna ble roedd e, yn sefyll gyda'r camelod wrth y pydew.
31. Aeth ato a dweud, “Tyrd, ti sydd wedi dy fendithio gan yr ARGLWYDD. Pam ti'n sefyll allan yma? Mae gen i le yn barod i ti yn y tŷ, ac mae lle i'r camelod hefyd.”