beibl.net 2015

Genesis 22:13-22 beibl.net 2015 (BNET)

13. Gwelodd Abraham hwrdd y tu ôl iddo. Roedd cyrn yr hwrdd wedi mynd yn sownd mewn drysni. Felly dyma Abraham yn cymryd yr hwrdd a'i losgi yn offrwm i Dduw yn lle ei fab.

14. Galwodd Abraham y lle yn “Yr ARGLWYDD sy'n darparu”. Mae pobl yn dal i ddweud heddiw, “Mae'r ARGLWYDD yn darparu beth sydd ei angen ar ei fynydd.”

15. Dyma angel yr ARGLWYDD yn galw ar Abraham eto.

16. “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n addo hyn ar fy llw: Am dy fod ti wedi gwneud beth wnest ti (roeddet ti'n fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti),

17. dw i'n mynd i dy fendithio di go iawn a rhoi cymaint o ddisgynyddion i ti ag sydd o sêr yn yr awyr. Byddan nhw fel y tywod ar lan y môr. A byddan nhw'n concro dinasoedd eu gelynion.

18. Trwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio, am dy fod ti wedi gwneud beth ddywedais i.’”

19. Felly, aeth Abraham yn ôl at ei weision, a dyma nhw'n teithio gyda'i gilydd i Beersheba, lle gwnaeth Abraham setlo.

20. Beth amser wedyn dwedodd rhywun wrth Abraham fod Milca, gwraig ei frawd Nachor, wedi cael plant hefyd.

21. Us oedd y mab hynaf, wedyn ei frawd Bws, ac wedyn Cemwel tad Aram,

22. ac wedyn Cesed, Chaso, Pildash, Idlaff a Bethwel.