15. Roedd Sara wedi dychryn, a dyma hi'n ceisio gwadu'r peth, “Wnes i ddim chwerthin,” meddai hi. “Dydy hynny ddim yn wir,” meddai'r ARGLWYDD. “Roeddet ti yn chwerthin.”
16. Pan gododd y dynion i fynd, roedden nhw'n edrych allan i gyfeiriad Sodom. Roedd Abraham wedi cerdded gyda nhw beth o'r ffordd.
17. A dyma'r ARGLWYDD yn meddwl, “Ddylwn i guddio beth dw i'n mynd i'w wneud oddi wrth Abraham?
18. Mae cenedl fawr gref yn mynd i ddod o Abraham, a bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwyddo.
19. Na, dw i'n mynd i ddweud wrtho. Dw i eisiau iddo ddysgu ei blant a pawb sydd gydag e i fyw fel mae'r ARGLWYDD am iddyn nhw fyw, a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn dod â'r addewid wnaeth e i Abraham yn wir.”
20. Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Mae pobl yn cwyno yn ofnadwy yn erbyn Sodom a Gomorra, eu bod nhw'n gwneud pethau drwg iawn!
21. Dw i am fynd i lawr i weld os ydy'r cwbl sy'n cael ei ddweud yn wir ai peidio. Bydda i'n gwybod wedyn.”
22. Aeth y dynion yn eu blaenau i gyfeiriad Sodom, tra roedd Abraham yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD.
23. Yna dyma Abraham yn mynd yn nes ato a gofyn, “Fyddet ti ddim yn cael gwared â'r bobl dda gyda'r bobl ddrwg, fyddet ti?
24. Beth petai pum deg o bobl yno sy'n byw yn iawn. Fyddet ti'n dinistrio'r lle yn llwyr a gwrthod ei arbed er mwyn y pum deg yna?
25. Alla i ddim credu y byddet ti'n gwneud y fath beth – lladd pobl dduwiol hefo pobl ddrwg, a thrin y drwg a'r da yr un fath! Fyddet ti byth yn gwneud hynny! Onid ydy Barnwr y byd yn gwneud beth sy'n iawn?”
26. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Os bydda i'n dod o hyd i bum deg o bobl dduwiol yn y ddinas, bydda i'n arbed y ddinas er eu mwyn nhw.”