beibl.net 2015

Genesis 16:10-16 beibl.net 2015 (BNET)

10. Wedyn dwedodd, “Fydd hi ddim yn bosib cyfri dy ddisgynyddion di, am fod cymaint ohonyn nhw.”

11. Dyma'r angel yn dweud wrthi:“Ti'n feichiog, ac yn mynd i gael mab.Rwyt i roi'r enw Ishmael iddo,am fod yr ARGLWYDD wedi gweld beth wyt ti wedi ei ddiodde.

12. Ond bydd dy fab yn ymddwyn fel asyn gwyllt.Bydd yn erbyn pawb,a bydd pawb yn ei erbyn e.Bydd hyd yn oed yn tynnu'n groes i'w deulu ei hun.”

13. Dyma Hagar yn galw'r ARGLWYDD oedd wedi siarad â hi yn El-roi (sef “y Duw sy'n edrych arna i.”) “Ydw i wir wedi gweld y Duw sy'n edrych ar fy ôl i?” meddai.

14. Dyna pam y cafodd y ffynnon ei galw yn Beër-lachai-roi (sef y ffynnon sydd rhwng Cadesh a Bered.)

15. Cafodd Hagar ei babi – mab i Abram. A dyma Abram yn ei alw yn Ishmael.

16. (Roedd Abram yn 86 oed pan gafodd Ishmael ei eni.)