beibl.net 2015

Genesis 16:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Doedd Sarai, gwraig Abram, ddim yn gallu cael plant. Ond roedd ganddi forwyn o'r enw Hagar, o wlad yr Aifft.

2. A dyma Sarai yn dweud wrth Abram, “Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi gadael i mi gael plant, felly dw i am i ti gysgu gyda fy morwyn i. Falle y caf i blant trwyddi hi.” A dyma Abram yn gwneud beth ddwedodd Sarai wrtho.

3. Felly dyma Sarai, gwraig Abram, yn rhoi Hagar, ei morwyn Eifftaidd, yn wraig i Abram. Roedd hyn ddeg mlynedd ar ôl i Abram symud i fyw i Canaan.

4. Ar ôl i Abram gysgu gyda Hagar roedd hi'n disgwyl babi. Pan sylweddolodd hi ei bod hi'n feichiog dechreuodd Hagar edrych i lawr ar ei meistres.

5. A dyma Sarai'n dweud wrth Abram, “Arnat ti mae'r bai fy mod i'n cael fy ngham-drin fel yma! Gwnes i adael i ti gysgu gyda hi, ond pan welodd hi ei bod hi'n disgwyl babi dyma hi'n dechrau edrych i lawr arna i. Bydd yr ARGLWYDD yn dangos pwy sydd ar fai!”

6. Ond atebodd Abram, “Dy forwyn di ydy hi. Gwna di beth wyt ti eisiau gyda hi.” Felly dyma Sarai yn dechrau ei cham-drin hi, a dyma Hagar yn rhedeg i ffwrdd.

7. Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd iddi wrth ymyl ffynnon yn yr anialwch, sef y ffynnon sydd ar y ffordd i Shwr.

8. “Hagar, forwyn Sarai,” meddai wrthi, “o ble rwyt ti wedi dod? I ble ti'n mynd?” A dyma Hagar yn ateb, “Dw i wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth Sarai, fy meistres.”

9. Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn dweud wrthi, “Dos adre at dy feistres, a bydd yn ufudd iddi.”

10. Wedyn dwedodd, “Fydd hi ddim yn bosib cyfri dy ddisgynyddion di, am fod cymaint ohonyn nhw.”