beibl.net 2015

Genesis 15:9-21 beibl.net 2015 (BNET)

9. Yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Tyrd â heffer, gafr a hwrdd yma – pob un ohonyn nhw'n dair blwydd oed – a hefyd turtur a cholomen ifanc.”

10. Dyma Abram yn dod â'r tri anifail, yn eu hollti nhw ar eu hyd, a gosod y ddau ddarn gyferbyn â'i gilydd. Ond wnaeth e ddim hollti'r adar yn eu hanner.

11. Pan oedd fwlturiaid yn dod i lawr ar y cyrff roedd Abram yn eu hel nhw i ffwrdd.

12. Ond gyda'r nos, pan oedd hi'n machlud, dyma Abram yn syrthio i gysgu'n drwm. A daeth tywyllwch a dychryn ofnadwy drosto.

13. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dw i eisiau i ti ddeall y bydd dy ddisgynyddion yn cael eu hunain yn byw fel ffoaduriaid mewn gwlad ddieithr. Byddan nhw'n cael eu gwneud yn gaethweision, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd.

14. Ond bydda i'n cosbi'r genedl fydd wedi eu gwneud nhw'n gaethweision, ac wedyn byddan nhw'n gadael y wlad honno gyda lot fawr o eiddo.

15. (Ond byddi di dy hun yn cael bywyd hir, braf cyn i ti farw a chael dy gladdu.)

16. Bydd dy ddisgynyddion yn dod yn ôl yma wedi pedair cenhedlaeth. Dydy'r holl ddrwg mae'r Amoriaid yn ei wneud ddim ar ei waethaf eto.”

17. Pan oedd yr haul wedi machlud a hithau'n dywyll, dyma grochan tân oedd yn mygu a ffagl oedd yn llosgi yn pasio rhwng darnau'r anifeiliaid.

18. Y diwrnod hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn gwneud ymrwymiad gydag Abram: “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di – y tir i gyd o Wadi'r Aifft i afon fawr Ewffrates.

19. Tir y Ceneaid, Cenesiaid, Cadmoniaid,

20. Hethiaid, Peresiaid, Reffaiaid,

21. Amoriaid, Canaaneaid, Girgasiaid, a'r Jebwsiaid.”