beibl.net 2015

Genesis 14:13-24 beibl.net 2015 (BNET)

13. Ond dyma un oedd wedi llwyddo i ddianc yn mynd i ddweud wrth Abram yr Hebread beth oedd wedi digwydd. Roedd Abram yn byw wrth goed derw Mamre yr Amoriad, ac roedd Mamre a'i frodyr, Eshcol ac Aner, wedi ffurfio cynghrair gydag Abram.

14. Felly pan glywodd Abram fod ei nai wedi cael ei gymryd yn gaeth, casglodd ei filwyr, 318 o ddynion oedd wedi eu geni gyda'r clan. Aeth ar ôl y gelyn mor bell â Dan yn y gogledd.

15. Yn ystod y nos dyma Abram yn rhannu ei fyddin ac ymosod ar y gelyn. Aeth ar eu holau mor bell â Choba, sydd i'r gogledd o Damascus.

16. Cafodd bopeth roedden nhw wedi ei ddwyn yn ôl. Daeth â'i nai Lot a'i eiddo yn ôl hefyd, a'r gwragedd a gweddill y bobl oedd wedi cael eu dal.

17. Ar ôl ennill y frwydr yn erbyn Cedorlaomer a'r brenhinoedd eraill, aeth Abram adre. Aeth brenin Sodom i'w groesawu yn Nyffryn Shafe (sef Dyffryn y Brenin).

18. A dyma Melchisedec, brenin Salem, yn mynd â bwyd a gwin iddo. Roedd Melchisedec yn offeiriad i'r Duw Goruchaf,

19. a dyma fe'n bendithio Abram fel hyn:“Boed i'r Duw Goruchaf,sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear,dy fendithio Abram.

20. A boed i'r Duw Goruchaf gael ei foli,am ei fod wedi gwneud i ti goncro dy elynion!”Yna dyma Abram yn rhoi iddo un rhan o ddeg o'r cwbl oedd ganddo.

21. Wedyn dyma frenin Sodom yn dweud wrth Abram, “Rho'r bobl yn ôl i mi, ond cadw bopeth arall i ti dy hun.”

22. Ond atebodd Abram, “Na, dw i wedi cymryd llw, ac addo i'r ARGLWYDD, y Duw Goruchaf sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear,

23. na fydda i'n cymryd dim byd gen ti – y mymryn lleiaf hyd yn oed. Dw i ddim am i ti ddweud, ‘Fi sydd wedi gwneud Abram yn gyfoethog.’

24. Does gen i eisiau dim byd ond beth mae'r milwyr ifanc yma wedi ei fwyta. Ond mae'n iawn i Aner, Eshcol a Mamre, aeth i ymladd gyda mi, gael eu siâr nhw.”