11. Felly dyma Lot yn dewis dyffryn yr Iorddonen, a mynd i gyfeiriad y dwyrain. A dyma'r teulu'n gwahanu.
12. Setlodd Abram yng ngwlad Canaan, ac aeth Lot i fyw wrth y trefi yn y dyffryn, a gwersylla wrth ymyl Sodom.
13. Roedd pobl Sodom yn ddrwg iawn, ac yn pechu'n fawr yn erbyn yr ARGLWYDD.
14. Ar ôl i Lot ei adael, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Edrych o dy gwmpas i bob cyfeiriad.
15. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i gyd i ti a dy ddisgynyddion, am byth.
16. Bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion fydd dim posib eu cyfri nhw. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear!
17. Dos i deithio o gwmpas y wlad. Bydda i'n rhoi'r cwbl i ti.”
18. Felly dyma Abram yn mynd, ac yn setlo i lawr wrth goed derw Mamre, oedd yn fan addoli yn Hebron. A dyma fe'n codi allor i'r ARGLWYDD yno.