beibl.net 2015

Genesis 1:17-27 beibl.net 2015 (BNET)

17. Gosododd nhw i gyd yn yr awyr i oleuo'r ddaear,

18. i reoli dydd a nos, ac i wahanu'r golau oddi wrth y tywyllwch. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda,

19. ac roedd nos a dydd ar y pedwerydd diwrnod.

20. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau'r dyfroedd yn orlawn o bysgod a chreaduriaid byw eraill, a dw i eisiau i adar hedfan yn ôl ac ymlaen yn yr awyr uwchben y ddaear.”

21. Felly dyma Duw yn creu y creaduriaid enfawr sydd yn y môr, a'r holl bethau byw eraill sydd ynddo, a'r holl wahanol fathau o adar hefyd. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.

22. A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud, “Dw i eisiau i chi gael haid o rai bach, nes eich bod chi'n llenwi'r dŵr sydd yn y môr, a dw i eisiau llawer o adar ar y ddaear.”

23. Ac roedd nos a dydd ar y pumed diwrnod.

24. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i greaduriaid byw o bob math lenwi'r ddaear: anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, a bywyd gwyllt o bob math.” A dyna ddigwyddodd.

25. Gwnaeth Duw bob math o greaduriaid gwyllt, pob math o anifeiliaid, ac ymlusgiaid a phryfed gwahanol i fyw ar y ddaear. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.

26. Yna dwedodd Duw, “Gadewch i ni wneud pobl yn ddelw ohonon ni'n hunain, i fod yn debyg i ni; i fod yn feistri sy'n gofalu am bopeth – y pysgod yn y môr, yr adar yn yr awyr, yr anifeiliaid, y ddaear gyfan a'r holl greaduriaid a phryfed sy'n byw arni.”

27. Felly dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun.Yn ddelw ohono'i hun y creodd nhw.Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw.