beibl.net 2015

Genesis 1:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a'r ddaear.

2. Roedd y ddaear yn anhrefn gwag, ac roedd hi'n hollol dywyll dros y dŵr dwfn. Ond roedd Ysbryd Duw yn hofran dros wyneb y dŵr.

3. A dwedodd Duw, “Dw i eisiau golau!” a daeth golau i fod.

4. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, a dyma Duw yn gwahanu'r golau oddi wrth y tywyllwch.

5. Rhoddodd Duw yr enw "dydd" i'r golau a'r enw "nos" i'r tywyllwch, ac roedd nos a dydd ar y diwrnod cyntaf.

6. Wedyn dwedodd Duw, “Dw i eisiau cromen o aer rhwng y dyfroedd, i wahanu'r dŵr yn ddau.”

7. A dyna ddigwyddodd. Gwnaeth Duw gromen o aer, ac roedd yn gwahanu'r dŵr oddi tani oddi wrth y dŵr uwch ei phen.

8. Rhoddodd Duw yr enw "awyr" iddi, ac roedd nos a dydd ar yr ail ddiwrnod.

9. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i'r dŵr sydd dan yr awyr gasglu i un lle, er mwyn i ddaear sych ddod i'r golwg.” A dyna ddigwyddodd.

10. Rhoddodd Duw yr enw "tir" i'r ddaear, a "moroedd" i'r dŵr. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.

11. Yna dwedodd Duw, “Dw i eisiau i laswellt dyfu o'r tir, a phob math o blanhigion sydd â hadau ynddyn nhw, a choed ffrwythau. Bydd yr hadau ynddyn nhw yn gwneud i fwy o'r planhigion gwahanol hynny dyfu.” A dyna ddigwyddodd.

12. Roedd y tir wedi ei orchuddio gyda glaswellt a phlanhigion a choed o bob math, â'u hadau eu hunain ynddyn nhw. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda,

13. ac roedd nos a dydd ar y trydydd diwrnod.