beibl.net 2015

Galarnad 4:2-12 beibl.net 2015 (BNET)

2. Roedd plant gwerthfawr Seionyn werth eu pwysau mewn aur.Ond bellach – O! maen nhw mor ddiwertha photiau pridd wedi eu gwneud gan grochenydd!

3. Mae hyd yn oed y siacal yn magu ei rai bachac yn eu bwydo ar y fron,ond mae fy mhobl i yn esgeulus o'u plantfel yr estrys yn yr anialwch.

4. Mae tafodau'r babanod yn glynu i dop eu cegauam fod syched arnyn nhw.Mae plant bach yn cardota am fwyd,ond does neb yn rhoi unrhyw beth iddyn nhw.

5. Mae'r bobl oedd yn arfer gwledda ar fwydydd moethusyn marw o newyn ar y strydoedd.Mae'r rhai gafodd eu magu mewn dillad crandyn crafu drwy'r sbwriel am rywbeth bach.

6. Mae fy mhobl wedi cael eu cosbi am eu pechodfwy na gafodd Sodom am ei gwrthryfel.Cafodd Sodom ei dinistrio'n sydyn gan Dduw,heb i neb droi llaw i'w helpu.

7. Roedd arweinwyr Jerwsalem yn lanach na'r eiraac wyn fel llaeth.Roedd eu cyrff yn iach,ac yn sgleinio fel cwrel neu saffir.

8. Ond bellach mae eu hwynebau yn ddu fel parddu.Does neb yn eu nabod nhw ar y strydoedd.Dŷn nhw'n ddim byd ond croen ac asgwrn,ac mae eu croen wedi sychu fel pren.

9. Roedd y rhai gafodd eu lladd gyda'r cleddyfyn fwy ffodus na'r rhai sy'n marw o newyn –y rhai mae bywyd yn llifo'n araf ohonyn nhw,am fod ganddyn nhw ddim i'w fwyta.

10. Pan gafodd fy mhobl eu dinistrio,roedd mamau, oedd unwaith yn dyner,yn coginio eu plant i'w bwyta!

11. Dyma'r ARGLWYDD yn bwrw arnom ei lid i gyd.Tywalltodd ei ddig ffyrniga chynnau tânwnaeth losgi sylfeini Seion.

12. Doedd dim un brenin wedi dychmygu,na neb arall drwy'r byd i gyd,y gallai unrhyw elyn neu ymosodwrgoncro dinas Jerwsalem.