beibl.net 2015

Galarnad 3:28-44 beibl.net 2015 (BNET)

28. Dylai rhywun eistedd yn dawelpan mae'r ARGLWYDD yn ei ddisgyblu e.

29. Dylai orwedd ar ei wyneb ar lawryn y gobaith y bydd yr ARGLWYDD yn ymyrryd.

30. Dylai droi'r foch arall i'r sawl sy'n ei daro,a bod yn fodlon cael ei gam-drin a'i enllibio.

31. Fydd yr Arglwydd ddim ynein gwrthod ni am byth.

32. Er ei fod yn gwneud i rywun ddiodde, bydd yn tosturio,achos mae ei gariad e mor fawr.

33. Dydy e ddim eisiau gwneud i bobl ddioddefnac achosi poen i bobl.

34. Os ydy carcharorion gwlad yn cael eu sathru,

35. a hawliau dynol yn cael eu diystyru,a hynny o flaen y Duw Goruchaf ei hun;

36. os ydy cwrs cyfiawnder yn cael ei wyrdroi yn y llys– ydy'r Arglwydd ddim yn gweld y cwbl?

37. Pwy sy'n gallu gorchymyn i unrhyw beth ddigwyddheb i'r Arglwydd ei ganiatáu?

38. Onid y Duw Goruchaf sy'n dweud beth sy'n digwydd– p'run ai dinistr neu fendith?

39. Pa hawl sydd gan rywun i gwynopan mae'n cael ei gosbi am ei bechod?

40. Gadewch i ni edrych yn fanwl ar ein ffordd o fyw,a throi nôl at yr ARGLWYDD.

41. Gadewch i ni droi'n calonnau a chodi'n dwyloat Dduw yn y nefoedd, a chyffesu,

42. “Dŷn ni wedi gwrthryfela'n ddifrifol,a dwyt ti ddim wedi maddau i ni.

43. Rwyt wedi gwisgo dy lid amdanat a dod ar ein holau,gan ladd pobl heb ddangos trugaredd.

44. Ti wedi cuddio dy hun mewn cwmwlnes bod ein gweddïau ddim yn torri trwodd.