Ac roedd strap cywrain wedi ei blethu i fod yn un darn gyda'r effod. Roedd wedi ei wneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.