A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r Eifftiaid fod yn hael at bobl Israel. Roedd Moses ei hun yn cael ei ystyried yn ddyn pwysig iawn yn yr Aifft. Roedd gan swyddogion y Pharo a'r bobl gyffredin barch mawr ato.