1. Dyma enwau meibion Israel, aeth i'r Aifft gyda'u tad Jacob a'u teuluoedd:
2. Reuben, Simeon, Lefi a Jwda,
3. Issachar, Sabulon a Benjamin,
4. Dan a Nafftali, Gad ac Asher.
5. Saith deg o feibion ac wyrion i Jacob i gyd (Roedd Joseff eisoes yn yr Aifft).
6. Yna dyma Joseff a'i frodyr a'r genhedlaeth yna i gyd yn marw.
7. Ond roedd eu disgynyddion, pobl Israel, yn cael mwy a mwy o blant. Roedd cymaint ohonyn nhw roedden nhw'n cael eu gweld fel bygythiad. Roedden nhw ym mhobman – yn llenwi'r wlad!
8. Aeth amser hir heibio, a daeth brenin newydd i deyrnasu yn yr Aifft, un oedd yn gwybod dim byd am Joseff.