beibl.net 2015

2 Samuel 24:16-25 beibl.net 2015 (BNET)

16. Ond wrth i'r angel bwyntio ei fys at Jerwsalem i'w difa, dyma'r ARGLWYDD yn teimlo'n sori am y niwed oedd yn cael ei wneud. A dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r angel oedd wrthi'n difa'r bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.)

17. Pan welodd Dafydd yr angel yn taro'r bobl, dyma fe'n dweud, “ARGLWYDD, fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg! Wnaeth y bobl ddiniwed yma ddim byd o'i le. Cosba fi a'm teulu!”

18. Y diwrnod hwnnw dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud wrtho, “Dos, a chodi allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.”

19. Felly dyma Dafydd yn mynd a gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Gad.

20. Pan welodd Arafna y brenin a'i weision yn dod ato, dyma fe'n mynd ato ac ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr.

21. “Pam mae fy meistr, y brenin, wedi dod yma ata i?” meddai. A dyma Dafydd yn ateb, “I brynu dy lawr dyrnu di. Dw i eisiau codi allor i'r ARGLWYDD i stopio'r pla yma ladd y bobl.”

22. Dyma Arafna'n ateb, “Syr, cymer beth bynnag wyt ti eisiau. Cymer yr ychen i'w llosgi'n aberth, a defnyddia'r sled dyrnu a iau'r ychen yn goed tân.

23. Dw i am roi'r cwbl i'm meistr, y brenin. Gobeithio bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn derbyn beth wyt ti'n wneud.”

24. Ond dyma'r brenin yn ei ateb, “Na, mae'n rhaid i mi dalu'r pris llawn i ti. Dw i ddim yn mynd i gyflwyno aberthau i'w llosgi i'r ARGLWYDD sydd wedi costio dim byd i mi.”Felly dyma Dafydd yn prynu'r llawr dyrnu a'r ychen am bum deg darn arian.

25. Wedyn adeiladodd allor i'r ARGLWYDD yno, a chyflwyno arni aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb ei weddi a stopio'r pla oedd yn mynd trwy'r wlad.