beibl.net 2015

2 Samuel 24:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dro arall roedd yr ARGLWYDD wedi digio'n lân gydag Israel. Dyma fe'n gwneud i Dafydd achosi trwbwl iddyn nhw trwy ddweud wrtho am gyfri pobl Israel a Jwda.

2. Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Joab, pennaeth ei fyddin, “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o holl lwythau Israel, o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, i mi gael gwybod maint y fyddin sydd gen i.”

3. Ond dyma Joab yn ateb y brenin, “O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gadael i ti fyw i weld byddin ganwaith fwy nag sydd gen ti! Ond syr, pam fyddet ti eisiau gwneud y fath beth?”

4. Ond roedd y brenin yn benderfynol, er gwaetha gwrthwynebiad Joab a chapteiniaid y fyddin. Felly dyma nhw'n mynd ati i gyfri pobl Israel, fel roedd y brenin wedi dweud.

5. Dyma nhw'n croesi Afon Iorddonen, ac yn dechrau yn Aroer, i'r de o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn. Yna dyma nhw'n mynd i'r sychnant ar diriogaeth Gad, ac i dref Iaser.

6. Ymlaen wedyn i ardal Gilead, a tref Cadesh ar dir yr Hethiaid, yna Dan ac Ïon, a rownd i Sidon.

7. Yna i lawr i dref gaerog Tyrus a holl drefi'r Hefiaid a'r Canaaneaid, ac ymlaen i gyfeiriad y de nes cyrraedd yr holl ffordd i Beersheba yn anialwch Jwda.

8. Cymerodd naw mis a tair wythnos cyn iddyn nhw gyrraedd yn ôl yn Jerwsalem, ar ôl teithio trwy'r wlad i gyd.

9. Yna dyma Joab yn rhoi canlyniadau'r cyfrifiad i'r brenin. Roedd yna wyth can mil o ddynion dewr Israel allai ymladd yn y fyddin, a pum can mil yn Jwda.

10. Ond wedi iddo gyfri'r bobl, roedd cydwybod Dafydd yn ei boeni. A dyma fe'n dweud wrth yr ARGLWYDD, “Dw i wedi pechu'n ofnadwy drwy wneud hyn. Plîs wnei di faddau i mi ARGLWYDD? Dw i wedi gwneud peth gwirion.”

11. Erbyn i Dafydd godi'r bore wedyn roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Gad, proffwyd y llys:

12. “Dos i ddweud wrth Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n rhoi tri dewis i ti. Dewis pa un wyt ti am i mi ei wneud.’”

13. Felly dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud, “Pa un wnei di ddewis? Tair blynedd o newyn yn y wlad? Neu tri mis o ffoi o flaen dy elynion? Neu tri diwrnod o bla drwy'r wlad? Meddwl yn ofalus cyn dweud wrtho i pa ateb dw i i'w roi i'r un sydd wedi f'anfon i.”