Roedd Meffibosheth, ŵyr Saul, wedi dod i gyfarfod y brenin hefyd. Doedd e ddim wedi trin ei draed, trimio'i farf, na golchi ei ddillad o'r diwrnod wnaeth y brenin adael Jerwsalem nes iddo gyrraedd yn ôl yn saff.